Y FAM – JEN

Ar ôl i’w gŵr ei gadael, rhaid i Jen fagu tri o fechgyn ar ei phen ei hun. Mae Jen yn gosod ffiniau clir i’w meibion. Mae hi’n gwobrwyo ymddygiad da ar siart sêr. Mae hi’n cosbi ymddygiad drwg trwy dynnu sêr oddi ar y siart, trwy roi ‘amser allan’, neu mewn rhai achosion eithriadol, trwy roi smac i gefn eu coesau.

Mae Jen yn dal Gethin, mab 5 oed, yn dwyn arian o’i phwrs eto. Mae hi’n ei atgoffa ei bod hi wedi dweud wrtho o’r blaen bod hyn yn anghywir, felly y tro hwn mae’n mynd i gael smac. Mae hi’n dweud wrtho i beidio gwneud hyn eto, ac yn rhoi cwtsh iddo a dweud wrtho ei bod hi’n ei garu.

Yn yr ysgol mae Gethin yn siarad am hyn gyda’i athro. Mae’r ysgol yn cysylltu gyda’r gwasanaethau cymdeithasol, sy’n dod i dŷ Jen gyda’r heddlu. Maen nhw’n dweud wrthi ei bod ‘mor agos a thrwch blewyn at gael ei chyhuddo o ymosodiad troseddol’.

Dros gyfnod o dair blynedd mae’r gwasanaethau cymdeithasol yn monitro Jen a’i meibion. Maen nhw’n cyfweld teulu a ffrindiau, a chyn ŵr Jen, er mwyn asesu ydi hi’n ffit i fod yn fam. Mae Jen yn teimlo ei bod hi’n cael ei thanseilio ac mae hi’n ofni colli ei phlant ac felly’n teimlo nad yw hi’n gallu cwyno.

Mae hi’n colli hyder fel rhiant ac yn amharod i ddisgyblu ei phlant o gwbl. O ganlyniad mae ymddygiad y bechgyn yn dirywio. Mae Gethin yn teimlo’n euog oherwydd beth sydd wedi digwydd i’w fam oherwydd beth ddwedodd e, ac mae ei waith ysgol yn dirywio.

YR ATHRO – HUW

Athro Saesneg ac ABCh yw Huw. Mae’n briod â Megan ac mae ganddyn nhw fab dwy oed, Freddie.

Tra’n aros i groesi ffordd brysur mae Freddie yn tynnu ei law i ffwrdd ac yn dechrau rhedeg allan o flaen car. Mae Huw yn ei dynnu fe nôl yn sydyn, ac yn ei godi a dweud y drefn wrtho. Mae’n atgoffa Freddie na ddylai rhedeg i’r ffordd. Mae Freddie yn dechrau crio, “Dad wedi brifo braich fi”. Mae cymydog yn clywed Freddie ac yn ffonio’r heddlu.

Mae Huw yn cael ei gyhuddo a’i gael yn euog o ymosodiad troseddol yn erbyn plentyn. Mae’n cael dirwy a dedfryd ohiriedig. Mae’n colli ei swydd, ei osod ar y Rhestr Gwahardd yn ymwneud â phlant, ac ni all weithio fel athro eto.

Y GWEITHIWR CYMDEITHASOL – JOHN

Cyn i’r ddeddf newid roedd John yn delio ag achosion 17 o bobl ifanc a’u theuluoedd. Roedd bron bob achos yn cynnwys tystiolaeth o gam-drin difrifol ac esgeulustra. Tri mis ar ol newid y ddeddf mae llwyth achosion John wedi bron a threblu oherwydd yr holl adroddiadau o rieni yn defnyddio cerydd resymol.

Am ei fod yn treulio amser yn archwilio i gyhuddiadau yn erbyn rieni da yn smacio plant, dydi e ddim yn gallu rhoi digon o sylw i’r achosion difrifol oedd e’n arfer gweithio arnyn nhw. Mae John yn methu ymdopi gyda’r llwyth gwaith ac yn gorfod cael 6 wythnos i ffwrdd oherwydd straen.

YR ARBENIGWR DIOGELU – ALICE

Mae Alice wedi bod yn uwch reolwr i elusen plant ers 10 mlynedd. Yn ei swydd bresennol mae hi’n gyfrifol am ddatblygu polisi diogelu ar gyfer eu safleoedd ar draws Cymru. Mae ganddi dri o blant dan 8 oed.

Wrth gymdeithasu gyda ffrind mae hi’n sôn am ddigwyddiad yn nhŷ ffrind pan oedd Esmee, sy’n flwydd a hanner, wedi dod ar draws allweddi ac ar fin eu rhoi mewn soced drydan. Mae Alice yn dweud ei bod hi wedi teimlo ar y pryd y dylai rhoi smac ar law’r plentyn er mwyn iddi ddeall na ddylai wneud hyn eto.

Mae rhywun yn gor-glywed y sgwrs ac yn dweud wrth yr heddlu. Mae’r archwiliad yn para 6 mis. Yn ystod y cyfnod mae Alice yn cael ei hatal dros dro o’i swydd heb gyflog. Yn y pendraw mae hi’n cael ei herlyn, ei chael yn euog ac yn derbyn dirwy o £1000. Mae hi’n colli ei swydd a’i hatal rhag gweithio gyda phlant am saith mlynedd.