Bydd rhieni da yn cael eu hystyried yn droseddwyr.
Ataliwch y gwarharddiad ar smacio
…o bobl wedi arwyddo’r ddeiseb hyd yn hyn.
“'Rwyf yn erbyn y cynllun i wneud smacio gan rieni yn drosedd.”
ARWYDDO’R DDEISEB
Rwy’n preswylio yng Nghymru ac rydw i dros 16 oed.
Pam gwrthwynebu'r gwarharddiad ar smacio?
Bydd yr heddlu a’r gwasanaethau cymdeithasol yn wynebu llu o achosion pitw, gan ei wneud yn anodd iddyn nhw atal gwir achosion o gam-drin plant.
Rhieni ddylai benderfynu a ydynt am smacio eu plant, nid y llywodraeth.
Mae’r ddeddf bresennol eisoes yn gwarchod plant rhag cael eu cam-drin. Mae angen gweithredu’r ddeddf, nid ei newid.
A ddylai smacio fod yn drosedd?
Cyflawnwyd y pôl ar y we gan ComRes drwy gyweld 1019 o oedolion Cymreig rhwng 13 a 25 Ionawr 2017. Mae’r data wedi ei gydbwyso i fod yn ddemograffig gynrychioliadol.
“Ie, ond…
Atebion i ddadleuon cyffredin o blaid newid y ddeddf i wneud rhieni yn droseddwyr
“FYDD DIM PERYGL I RIENI DA OS CAIFF Y DDEDDF EI NEWID.”
“MAE SMACIO YN UN MATH O GAM-DRIN PLANT”
“DYLAI PLANT GAEL EU HAMDDIFFYN YN YR UN FFORDD AG OEDOLION”
Dydi plant ddim yn cael gyrru, priodi na chael trwydded i gario gwn. Does neb yn honni bod hyn yn ‘annheg’ neu’n ‘anghyfartal’, a byddai defnyddio’r ddadl hon yn erbyn smacio yr un mor amhriodol. Gall plant cael eu gyrru i’w hystafell wely am gyfnod, neu gellir disgwyl iddynt fwyta eu llysiau, neu fynd i’r gwely ar amser penodol – dydi’r ‘cyfyngiadau’ hyn ddim yn briodol i oedolion.
“MAE SMACIO YN DYSGU PLANT I DDEFNYDDIO TRAIS”
Mae cerydd rhesymol yn helpu gosod terfynau clir, yn dysgu plant sut i ymddwyn ac yn eu paratoi ar gyfer bod yn oedolion. Mae cerydd rhesymol yn digwydd o fewn perthynas unigryw rhieni a phlant. Gweithred o gariad yw cerydd rhesymol, fel rhan o feithrin cariadlon rhieni.
“MAE SMACIO YN ARDAL NIWLOG O’R GYFRAITH – MAE’N FWY DIOGEL EI WAHARDD”
Mum: 'Why I'm oppposed to banning parental smacking (English)
Mum: ‘Please don’t criminalise loving parents’ (Welsh)
‘Government interference will overload social services’ (English)
Byddwch yn rhesymol - Stopiwch yr ymosodiad ar rieni
CWESTIYNAU CYFFREDIN
MwyBeth yw’r newid sy’n cael ei gynnig?
Ar hyn o bryd gall rhieni yng Nghymru ddefnyddio ‘cerydd rhesymol’ gyda’u plant. Mae Prif Weinidog Cymru wedi ymrwymo i wneud hyn yn anghyfreithiol. Mae’n bwriadu gwneud hyn trwy ddileu’r egwyddor o amddiffyniad cyfreithiol ar sail ‘cerydd rhesymol’.
Beth yw ‘cerydd rhesymol’
Mae’r ‘amddiffyniad ar sail cerydd rhesymol’ yn diogelu rhieni rhag cael eu troi’n droseddwyr am smacio eu plant.